Beth yw RSS?
Cyflwyniad
Mae RSS neu "Syndicetio Hynod Hawdd (Really Simple Syndication)" yn ddull defnyddiol o gael eich diweddaru am eich hoff wefannau. Mae RSS yn gwneud defnydd or côd arbennig sy'n sganio cynnwys gwefan yn gyson i chwilio am ddiweddariadau ac sydd wedyn yn darlledu'r diweddariadau hynny i bawb sy'n dymuno cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau.
Sut mae RSS yn gweithio?
Er mwyn gallu derbyn diweddariadau byddwch angen defnyddio agregwr newyddion. Bydd hyn yn eich galluogi i dracio sawl gwefan. Unwaith y caiff gwefan rydych yn ei thracio ei diweddaru, bydd eich agregwr newyddion yn derbyn ychydig o destun, naill ai crynodeb neu'r cyflwyniad i'r prif hanes. Yna gallwch ddilyn y cyswllt i ddarllen mwy.
Pan ddewch ar draws gwefan fel hon sy'n cynnig porthwr RSS gallwch ei hychwanegu i'ch agregwr ac yna byddwch yn gwybod pan gaiff ei diweddaru. Er mwyn ei hychwanegu i'ch agregwr cliciwch ar y botwm RSS neu XML ar y wefan. Yn ddibynnol ar ba agregwr sydd gennych; naill ai bydd y porthwr yn cael ei ychwanegu'n awtomatig neu bydd angen i chi gopo a phastio URL y dudalen rydych wedi cael eich arwain ati ac yna ychwanegu'r porthwr eich hun i'ch agregwr.
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Nid oes angen iddo gostio dim. Mae nifer o agregwyr newyddion ar gael ar-lein ac i'w lawr-lwytho a'u gosod ar eich cyfrifiadur personol. Mae rhai ohonynt yn rhad ac am ddim a chydag ychydig o chwilio, dylech allu dod o hyd i un sy'n apelio atoch. Yn ogystal i fod ar gael ar eich cyfrifiadur, gellir hefyd darllen porthwyr newyddion RSS ar Gynorthwyydd Personol Digidol a ffonau symudol.
Gwasanaethau Ar-lein
Lawr-lwytho i'ch cyfrifiadur personol
Darllenydd Porthwr (rhad ac am ddim)
Feed Demon (ar brawf am ddim)
