Datganiadau i'r Cyfryngau
Isod, ceir rhestr o Ddatganiadau i'r Cyfryngau a wnaed gan y Comisiwn.
-
Trefniadau ar gyfer talu drwy’r post yn ystod anghydfod y Post Brenhinol
16 Hydref 2009
Mae gweithwyr y Post Brenhinol wedi ethol o blaid streic cenedlaethol. Os bydd streic, gallai hyn effeithio ar bobl sy’n cael eu taliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda siec.
-
Mwy o blant nag erioed o'r blaen yn elwa o gynhaliaeth plant.
29 Gorffennaf 2009
Mae bron i 794,000 o blant yn elwa gan fod yr Asiantaeth Cynnal Plant wedi llwyddo i gasglu neu drefnu £1,136 miliwn mewn cynhaliaeth plant ledled Prydain Fawr dros y deuddeg mis diwethaf.
Mae'r Ystadegau Cenedlaethol a rhyddhawyd heddiw yn dangos bod y CSA, rhwng Gorffennaf 2008 a Mehefin 2009, wedi parhau i adennill cynhaliaeth plant oedd heb ei thalu, gydag ôl-ddyledion o £157 miliwn wedi eu casglu'r llynedd ym Mhrydain Fawr.
-
Cynhaliaeth plant yw'r brif broblem wrth wahanu meddai rhieni'r rhanbarth - ond mae'r rhan fwyaf yn mynd ymlaen heb gael help gan arbenigwyr.
7 Gorffennaf 2009
Erbyn hyn, mae gwasanaeth diduedd ar gael yn rhad ac am ddim, sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth i'r ddau riant.
Gall diffyg gwybodaeth am sut i weithio materion cynhaliaeth plant allan ychwanegu at y boen o wahanu ac ysgaru a gall hefyd beryglu dyfodol ariannol plant heb fod angen.
-
Gwelliant yr Asiantaeth Cynnal Plant dros y tair blynedd diwethaf.
29 Ebrill 2009
Ffigyrau perfformio cryf wrth gwblhau Cynllun Gwella Gweithredol yr Asiantaeth Cynnal Plant tra bod cleientiaid yn canmol gweithwyr achos am eu gwasanaeth proffesiynol.
Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant wedi llwyddo i gasglu neu drefnu mwy na £100 miliwn o gynhaliaeth plant mewn un mis am y tro cyntaf yn ei hanes.
-
Mae'r Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn dewis system TG newydd ar gyfer cynllun cynhaliaeth y dyfodol.
07 Ebrill 2009
Mae'r cynllun cynhaliaeth plant newydd fydd yn disodli'r ddau gynllun a ddarperir ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant wedi cymryd cam pwysig ymlaen.
Apwyntiwyd y cyflenwyr i ddarparu'r system gyfrifiadurol fydd yn tanategu cynllun 'y dyfodol' sydd nawr yn cael ei ddatblygu gan y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant.
-
Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn creu tri chant o swyddi newydd yn eu Pencadlys yn Leeds
06 Mawrth 2009
Bydd y corff cyhoeddus newydd sy'n gyfrifol am gynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr wedi ei leoli yn Leeds.
Bydd tua thri chant o swyddi newydd yn cael eu creu ym mhencadlys y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yng nghanol y ddinas.
-
Mae casgliadau cynhaliaeth plant yn dal i gynyddu
28 Ionawr 2009
Mae ystadegau perfformio am y chwarter cyntaf ers y newidiadau i reolau cynhaliaeth plant Hydref diwethaf yn dangos bod yr Asiantaeth Cynnal Plant yn parhau i gael mwy o arian i rieni â gofal.
Yn ystod 2008, llwyddodd yr Asiantaeth Cynnal Plant i gasglu neu drefnu cyfanswm o £1,112 miliwn, sef cynnydd o £137 miliwn ar gyfanswm 2007 ac i fyny o £798 miliwn yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth 2005.
-
Cynhaliaeth Plant: dewis i bob rhiant o heddiw ymlaen
27 Hydref 2008
Mwy o arian i rieni sengl ar fudd-daliadau ar ôl i'r gofyn i orfod defnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant ddod i ben.
Heddiw, daeth newidiadau sylweddol i system cynhaliaeth plant Prydain Fawr i rym. Maent yn ehangu'r dewis i rieni ac yn cael mwy o arian i deuluoedd ar incwm isel.
