Cynhaliaeth plant yw'r brif broblem wrth wahanu meddai rhieni'r rhanbarth - ond mae'r rhan fwyaf yn mynd ymlaen heb gael help gan arbenigwr.

Erbyn hyn, mae gwasanaeth diduedd ar gael syn rhad ac am ddim ac yn cynnig gwybodaeth a chymorth i'r ddau riant.

Gall diffyg gwybodaeth am sut i weithio materion cynhaliaeth plant allan ychwanegu at y boen o wahanu ac ysgaru a gall hefyd beryglu dyfodol ariannol plant heb fod angen.

Mewn arolwg o rieni yn rhanbarth canolbarth Lloegr, dywedodd dros hanner yr ymatebwyr mai darparu ar gyfer eu plant ywr mater ariannol sydd bwysicaf iddynt arth wahanu.

Ond or rhai hynny oedd wedi gwahanu, roedd 87% ddim yn gwybod ble i gael gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chynhaliaeth plant neu/ac yn anfodlon ymwneud â'r awdurdodau cynnal plant. Roedd y rhan fwyaf yn dibynnu ar deulu a ffrindiau.

Cwblhawyd yr arolwg ar ran Opsiynau Cynhaliaeth Plant, y gwasanaeth diduedd newydd syn rhad ac am ddim, a gynigir i rieni sy'n gwahanu ac sydd am wneud y gorau o drefniadau cynhaliaeth priodol ar eu cyfer hwy a'u plant. Gall hyn gynnwys gwneud trefniant preifat rhwng y ddau riant - dewis nad oedd 40% o rieni yn gwybod oedd ar gael iddynt.

Mae trefnu cynhaliaeth plant wedi newid llawer o fewn y flwyddyn ddiwethaf ac, fel y mae'r arolwg hwn yn dangos yn glir, mae pobl wedi bod yn mynd ati heb y wybodaeth gywir a diweddaraf

meddai Janet Paraskeva, Cadeirydd y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant, sy'n rheoli'r gwasanaeth newydd.

Maer gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn ddiduedd a chyfrinachol ac ar gael ir ddau riant. Nid oes angen i unrhyw un ddefnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant bellach os gallant weithio pethau allan eu hunain, ond rydym yn cydnabod y bydd rhai rhieni wastad angen help gan wasanaeth y wladwriaeth.

Mae'r arolwg a gafodd ei gynnal yn ardaloedd gan gynnwys Birmingham, Nottingham, Caerlŷr, Northampton, Rhydychen a Stoke-on-Trent, yn cyd-fynd â lansiad ymgyrch mawr yr wythnos hon yn rhanbarth canolbarth Lloegr er mwyn hybu'r gwasanaeth newydd.

Nid yn unig yw'r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn rhoi gwybodaeth i rieni am y gwahanol ffyrdd o drefnu cynhaliaeth plant ond mae hefyd yn egluro sut i wneud y trefniad mwyaf addas yn seiliedig ar eu hamgylchiadau - fel incwm, sefyllfa gartref ac os oes plant eraill iw hystyried. Bydd arbenigwyr Opsiynau Cynhaliaeth Plant hefyd yn rhoi cefnogaeth ar faterion eraill sy'n wynebu rhieni wrth wneud trefniadau cynhaliaeth fel materion cyfreithiol a phryderon am waith ac arian. Gobeithiwyd y byddair gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn symleiddio'r broses o dalu cynhaliaeth plant i'w wneud yn haws i'w ddeall ai reoli.

Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant trwy alw 0800 0834 375 am ddim, rhwng 8am a 8pm dydd Llun i ddydd Gwener neu 9am to 4pm ar ddydd Sadwrn. Neu fel arall, ymwelwch Ċr wefan yn www.cmoptions.org.