Gwelliant yr Asiantaeth Cynnal Plant dros y tair blynedd diwethaf.

Ffigyrau perfformio cryf wrth gwblhau Cynllun Gwella Gweithredol yr Asiantaeth Cynnal Plant tra bod cleientiaid yn canmol gweithwyr achos am eu gwasanaeth proffesiynol.

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant wedi bod y llwyddiannus wrth gasglu neu drefnu mwy na £100 miliwn o gynhaliaeth plant mewn un mis am y tro cyntaf yn ei hanes. Pasiwyd y garreg filltir hon ym Mawrth 2009 ac mae'n ddiweddglo addas i raglen gwella tair blynedd yr Asiantaeth Cynnal Plant.

Bydd gwell gwasanaethau i gleientiaid, cynnydd i gasgliadau cynhaliaeth a mwy o gydymffurfio gan rieni dibreswyl yn arwain at welliannau pellach wrth i gynhaliaeth plant barhau i ddatblygu. Bellach, cyfrifoldeb y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant ywr Asiantaeth Cynnal Plant, sy'n datblygu cynllun cynhaliaeth gwbl newydd er mwyn disodli dau gynllun presennol yr Asiantaeth Cynnal Plant o 2011 ymlaen.

Dyluniwyd y Cynllun Gwella Gweithredol er mwyn taclor materion pwysig sy'n wynebu'r system cynhaliaeth fel rhan o gynllun diwygio deuris. Bydd yr ail ran yn golygu mwy o newidiadau sylweddol, wrth i danategu system cynhaliaeth 'y dyfodol' gyda systemau TG newydd a phrosesau gwell ar gyfer asesu, casglu a gorfodi.

Ers Mawrth 2005:

  • Mae taliadau blynyddol o gynhaliaeth plant wedi chwyddo 42%, yn ystod y flwyddyn at fis Mawrth 2009, llwyddodd yr Asiantaeth i gasglu neu drefnu £1,132 miliwn.
  • Mae'r swm o ôl-ddyledion cynhaliaeth plant gafodd eu hadennill yn llwyddiannus wedi mwy na dyblu i dros £158 miliwn yn 2008/9.
  • Mae 218,000 o blant ychwanegol yn elwa o daliadau cynhaliaeth a drefnwyd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant.
  • Mae canran y rhieni dibreswyl sy'n talu cynhaliaeth plant wedi cynyddu i 71% o 63% yn 2005.

Pan lansiwyd y Cynllun Gwella Gweithredol yn 2006, gwnaethom rybuddio na fyddai unrhyw faterion difrifol oedd yn effeithio ar berfformiad yr Asiantaeth yn cael eu datrys dros nos,

meddai Stephen Geraghty, sef Comisiynydd Cynhaliaeth Plant a chyn Brif Weithredwr yr Asiantaeth Cynnal Plant.

Diolch i ymrwymiad a dyfalbarhad gweithlur Asiantaeth, credaf ein bod wedi dechrau cael y canlyniadau sy'n creu mwy o hyder yn y gwasanaeth cynhaliaeth plant. Mae'r rhain yn seiliau cadarn y gall y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant adeiladu arnynt wrth ddatblygu cynllun cynhaliaeth gwbl newydd fydd yn disodli cynlluniaur Asiantaeth Cynnal Plant o 2011 ymlaen.

Mae gwella gwasanaethau cleientiaid yn un maes lle bu cynnydd enwedig o gryf. Maer nifer o achosion heb eu clirio - oedd yn arfer bod yn 225,000 - wedi cael eu lleihau i lai na 50,000 gyda 82%o geisiadau newydd yn cael eu clirio o fewn 12 wythnos.

Mae galwadau ffôn i'r Asiantaeth Cynnal Plant nawr yn cael eu hateb yn brydlon gydag amser aros o 13 eiliad yn unig ar gyfartaledd.

Mae camau i sicrhau bod cleientiaid yn cael eu cysylltu yn uniongyrchol i weithwyr achos profiadol hefyd wedi bod yn llwyddiannus. Mae gweithwyr yr Asiantaeth yn cael canmoliaeth ddigymell gan gleientiaid, er bod llawer or rhain wedi bod yn siomedig gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant yn y gorffennol.

Yn ôl gyrrwr ambiwlans a rhiant â gofal Claire Anderson,

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant wedi gwella'n enbyd ers yr hen ddyddiau a bellach yn rhoi gwasanaeth gwell o lawer.

Mae Bridget Carroll syn fam o dri, yn teimlor un fath, ac yn dweud:

Roeddwn yn disgwyl yr un hen ddiffyg gwasanaeth, a methu ffonio yn ôl ac ati, ond cefais siom ar yr ochr orau, ac roeddwn yn hapus gydam gweithiwr achos Mark Evens oedd yn wybodus, rhesymol, amyneddgar ac ystyriol wrth ddelio a'm hachos.

Wrth sôn am ei weithiwr achos yng nghanolfan Asiantaeth Cynnal Plant Dudley, ychwanegodd tad a rhiant dibreswyl Michael Bowring;

Os yw hi yn arwyddocaol o'r math o bobl mae'r Asiantaeth Cynnal Plant bellach yn eu cyflogi a'r newidiadau maent yn eu gwneud, yna mae hynnyn beth da iawn wir.

Mae'r Asiantaeth hefyd wedi adnewyddu ei hymrwymiad i wneud defnydd llawn or pwerau sydd ar gael iddi er mwyn cael mwy o arian i fwy o blant. Mewn un achos diweddar, gwnaed y taliad mwyaf erioed sef £57,000 i fam yn Swydd Hertford ar ôl i'r Asiantaeth osod gorchymyn cyfreithiol yn erbyn eiddo roedd ei chyn-ŵr yn berchen arno.

Ar y cyfan, mae'r Asiantaeth wedi cymryd 120,970 o gamau gorfodi yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys 68,805 o Orchmynion Didynnu o Enillion.

Y newid pwysicaf yn ystod y flwyddyn aeth heibio oedd cael gwared ar y gofyn i rieni â gofal sy'n cael budd-daliadau orfod defnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant. Gyda chefnogaeth gan wasanaeth newydd y Comisiwn, sef Opsiynau Cynhaliaeth Plant mae pob rhiant sydd wedi gwahanu gyda'r hawl i ddewis y trefniad cynhaliaeth sy'n gweddu orau iw hamgylchiadau personol.

Gall hyn fod yn drefniant preifat a gytunwyd arno rhwng y partïon, neu achos a orfodir trwy'r Asiantaeth Cynnal Plant. Mae'r newid eisoes wedi lleihau'r llif o achosion newydd sydd ar lyfrau'r Asiantaeth, ac wedi galluogi iddi flaenoriaethu'r achosion hynny sydd angen cefnogaeth weithredol.

Ers lansior gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant, mae wedi hwylusor trefniadau ar gyfer cytundebau cynhaliaeth preifat, ac mae oddeutu 30,000 o blant eisoes wedi elwa o ganlyniad. Bydd y Comisiwn yn parhau i hybu'r gwasanaeth i rieni sy'n gwahanu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Edrychwch ar y Crynodeb Chwarterol llawn o Ystadegau