Newyddion
Mae casgliadau cynhaliaeth plant yn dal i gynyddu o dan y rheolau newydd wrth ir CSA barhau i wella ei gwasanaeth i rieni
28 Ionawr 2009
Maer ystadegau perfformio chwarterol cyntaf ers cyflwynor newidiadau i reolau cynhaliaeth plant ym mis Hydref y llynedd yn dangos bod y CSA yn parhau i gael mwy o arian i rieni â gofal.
Yn ystod 2008, llwyddodd y CSA i gasglu neu drefnu cyfanswm o £1,112 miliwn, sef cynnydd o £137 miliwn ar gyfanswm 2007 ac i fyny o £798 miliwn am y flwyddyn hyd at Fawrth 2005.
Mae'r Asiantaeth hefyd wedi parhau i gynyddu faint o gynhaliaeth heb ei thalu syn cael ei adennill ac atal y croniad o ddyled cynhaliaeth. Mae £156 miliwn mewn ôl-ddyledion wedi cael ei gasglu ers Rhagfyr 2007 - gan gynnwys cynnydd chwarterol o £7 miliwn ers Medi 2008 - sy'n adlewyrchu penderfyniad yr Asiantaeth i erlid rhieni dibreswyl sy'n methu Ċ chwrdd â'u cyfrifoldebau i'w plant.
Dyma'r ffigurau chwarterol cyntaf ers cael gwared ar y gofyniad i rieni â gofal sy'n cael budd-daliadau orfod defnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant i gasglu neu drefnu taliadau cynhaliaeth plant. Mae'r newidiadau, a ddaeth i rym ar 28 Hydref 2008, wedi effeithio ar oddeutu 400,000 o gleientiaid yr Asiantaeth Cynnal Plant sydd nawr yn rhydd i wneud cytundebau cynhaliaeth preifat ar wahĊn i system y wladwriaeth a ddarperir gan yr Asiantaeth.
Trwy roir hawl i bob rhiant ddewis gwelwyd lleihad cymharol, nad oedd yn annisgwyl, ir nifer o achosion newydd sydd ar lyfraur Asiantaeth Cynnal Plant ac adlewyrchir hynny yn y ffigurau hyn,
meddai Stephen Geraghty, y Comisiynydd Cynhaliaeth Plant.
Yn gyffredinol, maent yn adlewyrchur cynnydd cryf a pharhaus i effeithlonrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Gyda dim ond tri mis yn weddill cyn cwblhau'r Cynllun Gwella Gweithredol a gyflwynwyd yn 2006, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant ar y llwybr cywir i gwrdd âr mwyafrif o dargedau a osodwyd gan y Llywodraeth.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos lleihad dramatig ir nifer o achosion heb eu clirio (lleihad o 48% rhwng Mawrth a Rhagfyr 08) yn ogystal ag amserau aros wrth ffonio. Yn y naw mis hyd at ddiwedd Rhagfyr 2008 atebodd yr Asiantaeth Cynnal Plant 99% or galwadau ffôn oedd ar gael i'w hateb, gydag amser aros o 15 eiliad ar gyfartaledd.
Cynghorir rhieni i gymryd mantais o'r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant newydd drwy ymweld â www.cmoptions.org os ydynt am gael gwybodaeth a chymorth am y dewisiadau newydd sydd ar gael iddynt o dan y rheolau newydd, neu drwy ffonio rhadffôn 0800 988 0988.
