Newyddion
Cynhaliaeth Plant: Dewis i bob rhaint o heddiw ymlaen
27 Hydref 2008
Mwy o arian i rieni unigol ar fudd-daliadau wrth gael gwared ar y rh eidrwydd i ddefnyddior CSA.
O heddiw ymlaen, mae newidiadau sylweddol i system cynhaliaeth plant Prydain yn dod i rym. Maent yn ehangur dewis i fwy o rieni ac yn cael mwy o arian i deuluoedd ar incwm isel.
Mae gan bob rhiant sydd yn brif ofalwr dyddiol eu plentyn y rhyddid i ddewis y trefniadau cynhaliaeth plant sy'n gweddu orau iw hamgylchiadau. Yn flaenorol, roedd yn rhaid i'r rheini hynny sy'n cael budd-daliadau - ar hyn o bryd, tua 400,000 - ddefnyddio'r gwasanaeth statudol a ddarperir gan y CSA.
Mae'r newid hwn yn cyd-fynd Ċ dyblu'r swm gaiff rhieni syn brif ofalwyr eu plant ei gadw bob wythnos cyn iddo effeithio ar eu budd-dal o &10 i &20. Mae hyn yn paratoi'r ffordd tuag at 'ddiystyru' llawn yn 2010 pan fydd y cysylltiad rhwng y system budd-daliadau a chynhaliaeth plant yn dod i ben.
Bydd cyflwyno diystyru cynhaliaeth yn llawn ym mis Ebrill 2010, yn ogystal 'r diwygiadau sydd eisoes mewn bodolaeth, yn helpu i ddod a 100,000 yn fwy o blant allan o dlodi.
Bydd gwasanaeth diduedd newydd sy'n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth, sef Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn helpu rhieni i ddeall yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant ac i wneud penderfyniad eu hunain am y trefniadau sy'n gweddu orau iw hamgylchiadau.
Y diwygiadau hyn yw camau cyntaf y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant tuag at gael system cynhaliaeth gwbl newydd. Yn ogystal darparu gwybodaeth a chymorth i rieni, mae cylch gwaith y Comisiwn yn un eang syn cynnwys hybu'r cyfrifoldeb ariannol sydd gan rieni tuag at eu plant a darparu gwasanaeth statudol effeithlon gyda chamau gorfodi effeithiol.
Meddai Janet Paraskeva, Cadeirydd y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant:
Rydym angen rhoi lles plant yn gyntaf ac mae datgysylltu taliadau cynhaliaeth o'r system budd-daliadau yn gam pwysig ymlaen at gwrdd Ċr diben hwn. Bellach, does dim rhaid i rieni all wneud trefniadau preifat orfod defnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant.
Ond pan na fydd rhieni'n gallu cytuno ar drefniad eu hunain, neu os bydd y trefniadau hynny'n torri lawr, bydd y gwasanaeth statudol dal ar gael. Dros y tair blynedd diwethaf mae effeithlonrwydd y gwasanaeth hwnnw wedi cynyddu'n sylweddol.
Bydd gan y Comisiwn well pwerau i allu cymryd camau cadarn ac effeithiol yn erbyn y rhieni hynny sy'n methu Ċ chwrdd â'u cyfrifoldebau i'w plant. O 2009/10, er mwyn galluogi camau gorfodi cyflymach, bydd gan y Comisiwn y pŵer i gyhoeddi gorchmynion atebolrwydd heb fod angen gwneud cais i'r llysoedd. Bydd mesurau ychwanegol, i'w cyflwyno yn 2009/2010, yn cynnwys y pŵer i ddidynnu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o gyfrifon banc; gwneud cais i'r llysoedd i wahardd teithio a gosod cyrffyw; ac adennill dyled o ystadau rhieni dibreswyl sydd wedi marw.
Mae gwelliannau i berfformiad yr Asiantaeth Cynnal Plant yn y blynyddoedd diweddaraf wedi rhoi sylfaen gadarn i'r Comisiwn allu adeiladu arno. Yn Chwefror 2006, cyflwynwyd Cynllun Gwella Gweithredol i'r Asiantaeth, ac mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 768,000 o blant bellach yn elwa o dros £1 biliwn mewn taliadau cynhaliaeth plant - 65,000 yn ychwanegol i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 207,000 ers Mawrth 2005, cyn i'r Cynllun Gwella Gweithredol gael ei lansio.
Bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn parhau i weithredu'r ddau gynllun cynhaliaeth statudol. O 2011 ymlaen, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi cynllun cynhaliaeth statudol newydd; bydd cyfrifiadau cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm gros, yn hytrach nag incwm net, y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr dyddiol y plentyn.
