Rhyddid gwybodaeth

Mae'r dudalen hon yn egluro ein polisi Rhyddid Gwybodaeth.

Rhyddid Gwybodaeth - beth yw hyn?

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Y Ddeddf) yn rhoi hawl cyfreithiol i unrhyw unigolyn gael gafael ar wybodaeth sydd yn cael ei chadw gan unrhyw awdurdod cyhoeddus.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth y Ddeddf gan gynnwys pa fath o wybodaeth sy'n eithriedig ar wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

I bwy y mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys?

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gymwysedig i bob corff cyhoeddus gan gynnwys cyrff cyhoeddus anadrannol fel y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant.

Top y dudalen

Beth yw yr Hawliau Gweld?

Gall unrhyw un (p'un ai unigolyn neu gorfforaeth fel cwmni preifat) wneud cais am gael gafael ar neu gael gweld unrhyw wybodaeth cofnodedig sydd gan y Comisiwn. Golyga hyn y gallair holl wybodaeth a gedwir gan y Comisiwn gael ei rhyddhau, waeth ar ba ffurf y caiff ei chadw, er enghraifft ffeiliau papur cofnodedig; dogfennau electronig; llyfrau nodiadau neu gasgliadau o bapurau amrywiol ac ati.

Ni fydd y rheswm am y cais, os rhoddir un, yn cael ei ystyried wrth benderfynu os caiff gwybodaeth benodol ei rhyddhau neu ai hatal. Os na fydd rheswm wedi'i roi, ni fyddwn yn gofyn i chi pam bod angen y wybodaeth.

Mae'r Ddeddf hefyd yn mynnu eich bod yn cael gwybod os yw'r wybodaeth rydych ei heisiau yn bodoli ai peidio, ond eto mae'n dod o dan reolaeth eithriadau penodedig.

Gallwch nodi sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth er enghraifft copi, crynodeb neu i gael archwilio'r union gofnod. Bydd y Comisiwn yn gwneud ymdrech i gydymffurfio Ċ'ch gofyniad.

Mae'r Ddeddf yn gwbl wrtholygol. Golyga hyn y gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth sydd gan y Comisiwn heb ystyried ei hoedran. Er enghraifft, o dan y Ddeddf gellir gofyn am wybodaeth sy'n gynwysedig mewn dogfen a grwyd yn 1999 er i'r Ddeddf ond dod i rym ar 1af Ionawr 2005.

Sut gallaf wneud cais am wybodaeth

Mae llawer o wybodaeth yn cael ei darparu'n barod fel mater o drefn gan weithwyr wrth ymdrin ag achos cynhaliaeth plant. Yn y lle cyntaf, dylech ofyn i'r unigolion hyn am wybodaeth gyffredinol gan gynnwys taflenni a dogfennau eraill a ddarperir gan y Comisiwn, manylion cyswllt, oriau agor neu fanylion gwasanaethau mae'r Comisiwn yn darparu ar gyfer y cyhoedd. Os na ellir ateb eich cais fel hyn, yna gallwch ysgrifennu at:

Canolbwynt Rhyddid Gwybodaeth
Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant
PO Box 61791
Llundain
SW1P 9NT

Neu defnyddiwch ein Ffurflen gyswllt.

Yn eich cais ysgrifenedig, bydd angen i chi allu rhoi disgrifiad eglur o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch a bydd angen i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol fel y gallwn eich ateb:

  • eich enw
  • cyfeiriad gohebu (bydd cyfeiriad e-bost yn dderbyniol)

Dylai ateb gael ei anfon atoch o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw eich cais yn un cymhleth efallai bydd angen rhagor o amser arnom. Os bydd hyn yn digwydd rhown wybod i chi o fewn yr amserlen gwreiddiol a rhown amcan o bryd y gallwn gydymffurfio Ċ'ch cais.

Top y dudalen

Gwybodaeth Bersonol

Mae'n bwysig cofio nad yw Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn i ddarparu gwybodaeth bersonol y gall y Comisiwn fod yn cadw amdanoch. Dylai ceisiadau o'r fath gael eu gwneud o dan ddarpariaeth y Ddeddf Diogelu Data 1998. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Comisiwn a'r Ddeddf Diogelu Data.

Beth fydd yn digwydd os na all y Comisiwn ddarparu'r wybodaeth a ofynnir amdani?

Efallai na fydd y wybodaeth rydych wedi gofyn amdani gan y Comisiwn, os bydd hyn yn digwydd dywedwn wrthych o fewn 20 diwrnod. Fel arall, mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys nifer o eithriadau i'r hawl am gael gweld gwybodaeth.

Rhaid ystyried y rhan fwyaf o eithriadau mewn dau gam:

  • yn gyntaf a yw'r eithriad yn briodol i ran o'r wybodaeth a ofynnir amdani neu i'r wybodaeth i gyd, ac os yw,
  • a ywn fwy buddiol iw rhyddhau ir cyhoedd na gwrthod ?

Golyga hyn os bydd y wybodaeth rydych wedi gofyn amdani yn 'eithriedig', efallai byddwn yn parhau i'w darparu i chi.

Fodd bynnag, mae ambell wybodaeth yn 'llwyr' eithriedig. Yn yr achosion hyn nid yw'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd o gwbl. Gellir cael rhestr o eithriadau a r wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Os na allwn drin eich cais byddwn yn anfon llythyr atoch i egluro pa eithriad y credwn sy'n berthnasol i'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani a pham mae'n addas.

Ai dyna fydd ddiwedd y mater?

Na, os ydych dal yn anfodlon gyda'n penderfyniad gallwch ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Caiff yr adolygiad hwn ei wneud gan aelod o staff arall or Comisiwn nad oedd yn rhan o'r broses penderfynu gwreiddiol. Bydd y person hwn o radd uwch na'r person a benderfynodd ar eich cais gwreiddiol. Bydd eich cais yn cael ei edrych arno o'r dechrau a byddwch yn cael eich diweddaru yn ysgrifenedig o'u penderfyniad. Gall hyn fod i ategur penderfyniad gwreiddiol neu ei wrthdroi. Bydd unrhyw wybodaeth y teimlwn gallwn ei darparu yn cael ei gynnwys yn ein hymateb.

Gyda phwy y dylwn gysylltu er mwyn gofyn am adolygiad?

Dylech gysylltu â'r person a ysgrifennodd yr ymateb i'ch cais. Bydd y person hwnnw yn sicrhau bod y papurau sy'n berthnasol i'ch cais yn cael eu pasio ymlaen at y person sy'n gyfrifol am yr adolygiad.

Beth os fyddaf dal yn anfodlon?

Os ydych dal yn anfodlon ar ôl i ni edrych ar eich cais eto, gallwch ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i'ch cais. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gweithredu'n annibynnol, wedi'i apwyntio gan Ei Mawrhydir Frenhines ac yn ymateb yn uniongyrchol i'r Senedd. Mae ganddo hawl i weld yr holl bapurau sy'n berthnasol i'ch cais ac yn penderfynu os yw ein penderfyniad yn cwrdd â gofynion y Ddeddf. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Top y dudalen