Newidiadau i gynhaliaeth plant
Amserlen ar gyfer newid
- Gorffennaf 2008: Sefydlwyd y Comisiwn fel Corff Cyhoeddus statudol Anadrannol.
- Gorffennaf 2008: Cyflwynwyd yr opsiwn i'r rhai hynny sy'n gwneud cais am fudd-dal am y tro cyntaf i ddewis rhwng trefniadau cynhaliaeth statudol neu breifat. Nid oes rhaid i'r rhieni hyn ddefnyddio gwasanaeth cynhaliaeth statudol yr Asiantaeth Cynnal Plant mwyach.
- Hydref 2008: Nid oedd rhaid i gwsmeriaid y CSA oedd yn derbyn budd-dal barhau i ddefnyddio'r Asiantaeth. Mae pob rhiant yn gallu dewis y trefniadau cynhaliaeth plant syn gweddu orau iw hamgylchiadau, a chĊnt eu cefnogi gan Opsiynau Cynhaliaeth Plant. Mae rhieni sy'n derbyn budd-dal yn cael cadw mwy o'r gynhaliaeth plant a dderbynnir (hyd at 20 yr wythnos) cyn i hyn effeithio ar eu budd-daliadau. Golyga hyn y bydd mwy o arian yn mynd i fwy o deuluoedd ar incwm isel. Ni fydd taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu hystyried wrth gyfrifo ceisiadau am Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor.
- Tachwedd 2008: Y Comisiwn yn cymryd cyfrifoldeb am yr Asiantaeth Cynnal Plant
- 2009/10: Bydd pwerau gorfodaeth newydd y Comisiwn yn cael eu cyflwyno gan gynnwys cymryd arian o gyfrifon banc. Bydd y nifer o achosion gorfodi yn erbyn rhieni sydd ddim yn cydweithredu yn cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i gyflwyno gorchmynion atebolrwydd gweinyddol sydd yn golygu nad oes raid i ni ddefnyddio'r llysoedd. Mae'r pwerau newydd hyn yn berthnasol i'r ddau gynllun.
- O fis Ebrill 2010: bydd cynhaliaeth plant yn cael ei diystyru'n gyfan gwbl pan gaiff budd-daliadau diweithdra eu cyfrifo. Bydd hyn yn galluogi i rieni syn brif ofalwyr eu plant o ddydd i ddydd gadw pob ceiniog o'u taliadau cynhaliaeth plant, pan gaiff cynhaliaeth ei thalu.
- O 2011: Caiff y cynllun cynhaliaeth statudol newydd "incwm gros" ei sefydlu. Defnyddir y wybodaeth or flwyddyn dreth ddiweddaraf sydd ar gael gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer cyfrifiadau cynhaliaeth plant, fydd wedi eu seilio ar incwm gros yn hytrach nag incwm net. Bydd ein cleientiaid sydd ar y ddau gynllun statudol presennol yn cael eu cefnogi i naill ai gwneud eu trefniadau eu hunain neu symud i'r cynllun "incwm gros" newydd.
- 2013/2014: Un system cynhaliaeth plant fydd yn bodoli.
