Cwsmeriaid ar fudd-daliadau

Hyd at fis Hydref 2008, roedd rhaid i rieni oedd gofal o ddydd i ddydd am y plant ac oedd yn cael budd-daliadau ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth statudol (sydd ar hyn o bryd yn cael ei weithredu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant), hyd yn oed os oeddent yn gallu dod i gytundebau eu hunain heb gymorth gan y wladwriaeth.

Fodd bynnag, mae pob rhiant nawr yn gallu dewis y trefniant a fyddai'n fwyaf addas i'w hamgylchiadau arbennig hwy, hyd yn oed os ydynt yn cael budd-daliadau. Mae Opsiynau Cynhaliaeth Plant ar gael i ddarparu gwybodaeth a chymorth i helpu rhieni i allu gwneud eu dewis.

Ers mis Hydref 2008, mae pob rhiant sydd gofal o ddydd i ddydd am eu plant ac syn cael budd-daliadau wedi cael cadw mwy o'r gynhaliaeth plant a delir - hyd at 20 yr wythnos - cyn i hyn effeithio ar eu budd-daliadau. Mae hyn yn helpu i gael mwy o arian i deuluoedd sydd ar incwm isel.

Yn ychwanegol i hyn, o fis Ebrill 2010, bydd cynhaliaeth plant yn cael ei diystyru'n gyfan gwbl pan gyfrifir pob budd-dal diweithdra. Bydd hyn yn galluogi rhieni gydar prif ofal am eu plant o ddydd i ddydd i gadw pob ceiniog o'u taliadau cynhaliaeth plant, pan gaiff cynhaliaeth ei thalu.