Polisi Preifatrwydd

Mae'r dudalen hon yn egluro ein polisi preifatrwydd a sut rydym yn defnyddio a diogelu gwybodaeth bersonol.

Pa wybodaeth fyddwn yn ei chasglu gan ymwelwyr i'r wefan?

Byddwn yn casglu dau fath o wybodaeth gan ymwelwyr i'r wefan: adborth (trwy e-bost gan ymwelwyr) a gwybodaeth ar ddefnydd o'r wefan o'r ffeiliau log.

Top y dudalen

Ffeiliau log

Mae ffeiliau log yn ein galluogi i gofnodi'r defnydd o'r wefan a wneir gan ymwelwyr. Nid yw'r ffeiliau log yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio er mwyn canfod pwy ydych. Defnyddir y wybodaeth hon i wneud newidiadau i osodiad y wefan ac i'r wybodaeth a gynhwysir ynddi.

Top y dudalen

Adborth

Croesawn eich sylwadau am y wefan hon. Gallwch roi sylwadau trwy ein Ffurflen Gyswllt. Unwaith y byddwn wedi anfon ymateb atoch, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges fel cyfeirnod ac at ddibenion monitro.

Top y dudalen

Cookies

"Cookies" yw'r enw ar ddarnau o ddata a gaiff eu creu yn aml wrth i chi ymweld â gwefan, a chânt eu cadw yn y cyfeiriadur "cookies" ar eich cyfrifiadur.

Fel arfer, nid yw'r wefan hon yn defnyddio cookies. Ar adegau byddwn yn rhedeg arolygon defnyddwyr ar y safle hwn. Yn yr achos hwn defnyddiwn cookies i fonitro'r nifer o ymatebion i'r arolwg. Hefyd, defnyddiwn cookies i sicrhau nad ydy'r arolwg yn cael ei gyflwyno i chi eto os ydych eisoes wedi ei gwblhau.

Top y dudalen

Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant a'r Ddeddf Diogelu Data

Mae'r Comisiwn yn deall eich pryderon am gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol.

Mae gan y Comisiwn rwymedigaeth i sicrhau bod digon o wybodaeth gan ein cleientiaid i ddeall asesiad, casgliad a gorfodaeth y gynhaliaeth plant yn llawn ac i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol nad sy'n angenrheidiol i'r ddealltwriaeth honno.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â defnydd y Comisiwn o'r Data ysgrifennwch i'r:

Data Protection Unit
Alnwick House, Room BP6002
Benton Park View, Benton Park Road
Longbenton, Newcastle upon Tyne
NE98 1YX

Gellir cael gwybodaeth bellach am y Ddeddf Diogelu Data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Top y dudalen

Datguddio gwybodaeth

Lle bo angen datguddiad o wybodaeth yn ôl y Ddeddfwriaeth Cynnal Plant ni fydd y datguddiad hwnnw yn torri ar y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Dyma fydd yr achos hyd yn oed os bydd y cleient yn gwrthwynebu i'w gwybodaeth bersonol gael ei datguddio neu os na fyddant wedi darparu unrhyw ganiatâd penodol i ddatguddio'r wybodaeth.

Er enghraifft, mae Rheoliad 9A o'r Rheoliadau Cynnal Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datguddiad) 1992 yn caniatáu'r datguddiad o wybodaeth a roddir gan un parti i'r llall o dan amgylchiadau penodol.

Mae Adran 35 o'r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn caniatáu'r datguddiad o wybodaeth mewn unrhyw achos lle bo angen y datguddiad drwy neu o dan ymddeddfiad, neu yn ôl unrhyw reol o'r gyfraith neu drwy orchymyn llys.

Os byddwch am gael gwybod mwy am ba wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth edrychwch ar y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Top y dudalen

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn wedi'i ddiweddaru ar y dudalen hon. Trwy adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd gellir sicrhau y byddwch wastad yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y gallwn ei rhannu gyda phartïon eraill.