Cylch gwaith

Mae gan y Comisiwn dair prif swyddogaeth:

  • hybu'r cyfrifoldeb ariannol sydd gan rieni tuag at eu plant;
  • darparu gwybodaeth a chymorth am yr opsiynau cynhaliaeth plant gwahanol sydd ar gael;
  • darparu gwasanaeth cynhaliaeth statudol effeithiol, gyda chamau gorfodi effeithlon.

Mae cylch gwaith y Comisiwn yn fwy eang na'r un sydd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant, sydd ond yn darparu gwasanaeth cynhaliaeth statudol.

Mae'r newidiadau eang a gyflwynwyd drwyr Ddeddf Cynnal Plant a Thaliadau Eraill yn cydnabod cyfyngiadau a gwendidaur system presennol, ac yn darparu gwasanaethau symlach, sy'n fwy eglur a chost effeithiol. Mae'r newidiadau yn cynnwys:

  • ehangu'r un opsiynau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant i bob rhiant, trwy gael gwared ar y gofyniad i bob rhiant sy'n brif ofalwr dyddiol i'r plentyn ac sy'n cael budd-daliadau ddefnyddio'r cynllun statudol. Mae hyn wedi galluogi pob rhiant i ddewis y trefniadau - preifat neu statudol - sy'n gweddu orau iw hamgylchiadau;
  • sicrhau bod mwy o arian yn cael ei drosglwyddo i deuluoedd sydd â llai o incwm, trwy gynyddu faint o fudd-dal gaiff ei ddiystyru;
  • darparu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth (Opsiynau Cynhaliaeth Plant) i alluogi rhieni i allu dewis os mai trefniant preifat neu drefniant statudol fyddain gweddu orau iw hamgylchiadau;
  • gwella'r broses casglu dyled a thaclo diffyg cydweithrediad trwy rhaglen gorfodi gwell. Cyflwynir hyn yn 2009/10;
  • symleiddio asesiadau ar gyfer y gwasanaeth cynhaliaeth statudol. Bydd hyn yn dod yn effeithiol o 2011 ymlaen.

Fel rhan o Gynllun Gwella Gweithredol yr Asiantaeth Cynnal Plant, fydd yn rhedeg hyd at fis Mawrth 2009, mae'r Comisiwn yn parhau gyda'r gwelliannau sylweddol sydd eisoes wedi cael eu gwneud i'r cynlluniau statudol presennol.