Amdanom ni
Bwrdd y Comisiwn
Bydd Bwrdd y Comisiwn yn pennu ac yn goruchwylio pob cyfarwyddyd strategol y Comisiwn ac yn gwerthuso perfformiad. Yn ychwanegol i'r Cadeirydd a'r Comisiynydd, aelodau'r bwrdd yw:
Deborah Absalom
Cyfarwyddwr Anweithredol
Deborah yw Cyfarwyddwraig bresennol Gwasanaethau Plant ym Mwrdeistref Bexley yn Llundain. Cyn hynny, bu’n Ddirprwy Brif Weithredwraig dros Addysg yn Leeds. Mae Deborah hefyd yn rhan o’r grŵp llywio Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant yn Llundain ac mae'n cynrychioli’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant mewn nifer o grwpiau cenedlaethol.
Rosemary Carter
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Rosemary yn gyfreithwraig ymgynghorol sy'n arbenigo mewn cyfraith teulu yn ogystal â bod yn gyfryngwraig achrededig. Ar hyn o bryd mae hi'n aelod o Fwrdd y Swyddfa Cwynion Cyfreithiol ac yn aelod annibynnol o'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a Bwrdd Cynllun Syrfewyr Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig yr Ombwdsmon. Mae Rosemary hefyd yn aelod o Resolution ac yn ymddiriedolwraig i Gingerbread.
Bill Griffiths
Cyfarwyddwr Anweithredol
Ar hyn o bryd, mae Bill yn Gadeirydd y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig a’r Coleg Gwasanaeth Tân. Mae ganddo hefyd nifer o swyddogaethau Cyfarwyddo Anweithredol eraill o fewn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Chydwasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau. Cyn hyn, bu Bill yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn yr Asiantaeth Cynnal Plant, Yr Adran dros Ddatblygiad Rhyngwladol a Chyllid a Thollau EM.
Alan Hardy
Cyfarwyddwr Ariannu a Sicrwydd
Mae Alan yn gyfrifol am ffurfio'r swyddogaeth Ariannu a Sicrwydd o fewn y Comisiwn newydd. Mae Alan wedi bod yn Gyfarwyddwr Ariannu a Sicrwydd yr Asiantaeth Cynnal Plant ers Ebrill 2006 ac yn ystod yr amser hwn mae wedi cronni gwybodaeth helaeth am y system cynhaliaeth plant a bydd yn dod Ċr holl allu hwn gydag ef i'r Comisiwn.
Heather Jackson
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Heather wedi llenwi amryw o swyddogaethau lefel uwch yn ymwneud â gweithredu a newid busnes mewn ystod eang o gyrff. Yn ddiweddar, hi oedd Prif Swyddog Gwybodaeth a Chyfarwyddwraig Grŵp TG HBOS. Mae eisoes wedi arwain TG a newid ar gyfer Capital One, Boots, Asda a’r grŷp Burton Group.
Susan Park
Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol
Mae gan Susan gyfrifoldeb am strategaeth lefel uwch, polisi a deddfwriaeth eilaidd a rheoli perthnasau allanol y Comisiwn. Roedd eisoes yn Gyfarwyddwr Datblygu Strategaeth a Pholisi'r Asiantaeth Cynnal Plant, a hefyd treuliodd ddwy flynedd fel Cyfarwyddwr Gweithredu. Cyn hynny, bu yn Brif Ysgrifennydd Preifat i bedwar Ysgrifennydd Gwladol olynol.
Keith Woodhouse
Cyfarwyddwr Newid a Gwasanaethau Corfforaethol
Mae Keith yn gyfrifol am arwain y rhaglen newid i sefydlu cyfundrefn newydd ar gyfer cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr. Ymunodd Keith â'r Asiantaeth Cynnal Plant yn 2006 fel Cyfarwyddwr Cynllunio Busnes a Phrif Swyddog Gwybodaeth. Ym mis Chwefror 2008, daeth Keith yn gyfrifol am agenda newid yr Asiantaeth Cynnal Plant a'r Rhaglen Ailgynllunio Cynhaliaeth Plant.
